Manifesto Welsh

Manifesto Welsh

Maniffesto Menywod PEN Rhyngwladol

Mae prif egwyddor sefydlu Siarter PEN yn datgan ‘nad yw llenyddiaeth yn cydnabod unrhyw ffiniau’. Yn draddodiadol, tybiwyd am y ffiniau hyn fel ffiniau rhwng gwledydd a phobl. I lawer o fenywod yn y byd – ac i bob merch, bron, tan yn gymharol ddiweddar – y ffin gyntaf a’r olaf, ac efallai’r un mwyaf pwerus, oedd drws y tŷ lle’r oedd yn byw: cartref ei rhieni neu ei gŵr. I fenywod gael rhyddid mynegiant, yr hawl i ddarllen, yr hawl i ysgrifennu, mae angen iddynt feddu ar yr hawl i grwydro’n rhydd yn gorfforol, yn gymdeithasol a deallusol. Ychydig iawn o systemau cymdeithasol nad ydynt yn cymryd agwedd elyniaethus tuag at fenyw sy’n rhodio ar ei phen ei hun.

Cred PEN fod trais yn erbyn menywod, yn ei holl amrywiol ffurfiau, y tu mewn i furiau cartref neu allan yn gyhoeddus, yn creu ffurfiau peryglus ar sensoriaeth. Ym mhedwar ban byd, rhoddir gwerth ar ddiwylliant, crefydd a thraddodiad uwchlaw hawliau dynol ac fe’u defnyddir fel dadleuon i annog neu i amddiffyn niweidio gwragedd a merched.

Cred PEN fod y weithred o ddistewi unigolyn yn gyfystyr â gwadu bodolaeth yr unigolyn hwnnw. Mae’n fath o farwolaeth. Mae dynoliaeth yn ddiffygiol ac yn golledig heb fynegiant llawn a rhydd o greadigrwydd a gwybodaeth menywod.

MAE PEN YN CADARNHAU’R EGWYDDORION CANLYNOL A GYDNABYDDIR YN RHYNGWLADOL:

  1. DIM TRAIS: Diweddu trais yn erbyn menywod a merched ar ei holl ffurfiau, gan gynnwys cyfreithiol, rhywiol, seicolegol, geiriol a digidol; hyrwyddo amgylchedd lle gall merched fynegi eu hunain yn rhydd, a gofalu yr ymchwilir yn drylwyr i drais seiliedig ar ryw, a’i gosbi, a bod dioddefwyr yn cael iawn.
  2. DIOGELWCH: Amddiffyn llenorion a newyddiadurwyr benyw a gwrthweithio absenoldeb cosb am drais ac aflonyddu yn erbyn llenorion a newyddiadurwyr benyw yn y byd ac ar-lein.
  3. ADDYSG: Dileu gwahaniaethu rhwng y rhywiau ar bob lefel o addysg trwy hybu mynediad llawn at addysg o safon i ferched a menywod, a sicrhau y gall menywod arfer eu hawl trwy addysg i ddarllen ac ysgrifennu.
  4. CYFARTALEDD: Sicrhau bod menywod yn gyfartal â dynion yn llygad y gyfraith; condemnio camwahaniaethu o bob math yn erbyn menywod a chymryd pob cam sydd ei angen i ddileu camwahaniaethu a sicrhau cyfartaledd llawn i bawb trwy ddatblygu a hyrwyddo llenorion benyw.
  5. MYNEDIAD: Gofalu y caiff menywod yr un mynediad i’r ystod lawn o hawliau sifig, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol fel y gall menywod gyfranogi’n llawn ac yn rhydd a chael eu cydnabod yn gyhoeddus mewn pob cyfrwng ac ar draws ffurfiau llenyddol. Hefyd, sicrhau mynediad cyfartal i fenywod a merched at bob cyfrwng fel dull o ryddid mynegiant.
  6. CYDRADDOLDEB: Hyrwyddo cyfranogiad economaidd cyfartal llenorion benyw, a sicrhau bod llenorion a newyddiadurwyr benyw yn cael eu cyflogi a’u talu ar delerau cyfartal a dynion heb unrhyw gamwahaniaethu

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *